|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 13 Mawrth 2012 |
|
|||
|
Amser: |
08:30 - 08:50 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Jocelyn Davies William Graham Jane Hutt |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Anna Daniel (Clerc)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cafodd y cofnodion eu nodi gan y Pwyllgor ar gyfer eu cyhoeddi.
3. Trefnu'r Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher cyn y Ddadl Fer.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor amserlen dair wythnos Busnes y Llywodraeth.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:
Dydd Mercher 21 Mawrth 2012
· Cynnig i ddirymu Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholidau Cyffredin) 2012 (30 munud)
Dydd Mercher 25 Ebrill 2012
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru (60 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn Busnes y Cynulliad.
4. Deddfwriaeth
4(i) Confensiynau Deddfwriaethol yn y Pedwerydd Cynulliad
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft yn nodi’r confensiynau diwygiedig a ddylai gael eu cymhwyso wrth i bwyllgorau ystyried deddfwriaeth a chytunodd ar yr adroddiad.
5. Busnes Arall
5(i) Gweithredu Diwydiannol - Effaith ar fusnes ffurfiol Busnes y Cynulliad
Rhoddodd y Pwyllgor Busnes ystyriaeth bellach i’w gynlluniau wrth gefn pe bai gweithredu diwydiannol yn digwydd ar 28 Mawrth.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ y bydd y Llywodraeth yn symud y Cwestiynau i Weinidogion i ddydd Mawrth 27 Mawrth.
Dywedodd William Graham mai dewis ei grŵp ef fyddai cadw at yr holl fusnes ddydd Mercher 28 Mawrth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes eraill mai eu dewis hwy fyddai rhoi lle i ddwy ddadl y gwrthbleidiau mewn Cyfarfod Llawn estynedig ddydd Mawrth 27 Mawrth. Awgrymodd Arweinydd y Tŷ y gallai’r cyfarfod ddechrau yn gynt nag arfer er mwyn cynnwys yr eitemau ychwanegol hyn o fusnes.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai’r ddadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Ddadl Fer gael eu gohirio tan ar ôl toriad y Pasg.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid neilltuo amser cyfarfod amgen i’r Pwyllgor Cyllid.
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi Datganiad Busnes drafft i adlewyrchu’r trafodaethau hyn, er mwyn eu hystyried yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.